Lleoliad:
Video Conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 30 Ionawr 2024
Amser:
09.01 -
09.21
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Lesley Griffiths AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Dirprwy Brif Weithredwr a Chlerc a Chyfarwyddwr Busnes y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 19:15.
Gofynnodd Darren Millar a Heledd Fychan am ddatganiad llafar ar Fferm Gilestone yn dilyn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 29 Ionawr. Nododd y Trefnydd y byddai'r Llywodraeth yn ystyried y cais.
Dydd Mercher
Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:
·
Dadl ar adroddiad blynyddol y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a
Chysylltiadau Rhyngwladol ar Gysylltiadau Rhyngwladol 2022-23 (60
munud) Gohiriwyd tan 28
Chwefror
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol yng Nghymru (60 munud) Ail-drefnwyd o 24 Ionawr
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 19:50.
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 20 Chwefror 2024
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: System a Siarter Budd-daliadau Cymru (30 munud)
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 28 Chwefror 2024 –
· Dadl ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ar Gysylltiadau Rhyngwladol 2022-23 (60 munud) Ail-drefnwyd o 31 Ionawr
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer: Mark Isherwood (Gogledd Cymru) (30 munud)
Trafododd y Pwyllgor Busnes ddyraniad slotiau cyfarfod i Bwyllgor o’r Senedd Gyfan ar gyfer trafodion Cyfnod 2 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), pe bai’r cynigion perthnasol yn cael eu cytuno ar 30 a 31 Ionawr.
Yn dilyn trafodaeth, ar ôl i Darren Millar fynegi pryderon ynghylch cynnal trafodion Cyfnod 2 ar yr un diwrnod â’r ddadl ar Gyllideb Derfynol 2024-25, cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddyrannu slot i Bwyllgor o’r Senedd Gyfan ar ôl i’r Cyfarfod Llawn ddod i ben ar 5 Mawrth a 6 Mawrth ar gyfer trafodion Cyfnod 2 y Bil.
Nododd y Trefnydd y byddai busnes y Llywodraeth ar 5 Mawrth yn cael ei gyfyngu at yr eitemau hanfodol.
Hefyd, cytunodd y Pwyllgor ar y camau a ganlyn:
· y byddai busnes anllywodraethol yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 6 Mawrth yn cael ei gyfyngu at Gwestiynau i Gomisiwn y Senedd, Cwestiynau Amserol, Datganiadau 90 Eiliad a'r Ddadl Fer;
· i ystyried yn nes at yr amser a ddylai’r Cyfarfod Llawn ddechrau’n gynharach ar naill ai 5 neu 6 Mawrth, neu’r ddau;
· dyrannu slot cyfarfod i Bwyllgor o'r Senedd Gyfan yn syth ar ôl y Cyfarfod Llawn ar 20 Chwefror at ddibenion trafod unrhyw gynnig a gyflwynir gan y Llywydd fel Cadeirydd y Pwyllgor o'r Senedd Gyfan mewn cysylltiad â threfn ystyried trafodion Cyfnod 2 y Bil.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth Traws-Môr Tawel) at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau o 15 Mawrth 2024 ar gyfer cyflwyno adroddiad.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i’r cais i gynnal dadl ar ddeiseb P-06-1367 Dylid ariannu gwaith i symud creigiau chwarel ac adfer tywod a grwynau i Lannau Gogledd Llandudno, ac i'r ysgrifenyddiaeth gytuno ar ddyddiad addas ar gyfer y ddadl hon gyda'r Pwyllgor Deisebau.